GOHIRIO PROFION GWAED ARFEROL

Mae Llywodraeth Cymru wedi ein hysbysu bod prinder poteli gwaed ledled y wlad oherwydd problem gyda’r gwneuthurwr. Mae’r prinder hwn dros dro, ond bydd yn effeithio ar y gwasanaeth a gynigir gan Feddygfa Caerffynnon.
Mae’r Llywodraeth wedi gofyn i bob Feddygfa flaenoriaethu profion gwaed ar gyfer y cleifion gyda’r risg uchaf, neu angen mwyaf a gohirio profion gwaed arferol lle bo hynny’n bosibl. O ganlyniad, efallai y bydd angen i ni ohirio’ch profion gwaed am nifer o wythnosau, fodd bynnag, bydd y claf yn cael ei adolygu gan y clinigwr i sicrhau ei fod yn ddiogel gwneud hynny.
BYDD Y CLEIFION GYDA’R RISG UCHAF, NEU ANGEN, YN DAL YN DERBYN EU PROFION GWAED.
Os bydd eich prawf gwaed yn cael ei ohirio cysylltwch â ni mewn pedair wythnos am fyw o fanylion. Ymddiheurwn am unrhyw bryder y gallai hyn ei achosi, a diolchwn i’n cleifion, teuluoedd a gofalwyr am eu dealltwriaeth a’u hamynedd ar hyn o bryd.