
Gallwch ffonio 111 i gael mynediad am ddim at ofal brys y tu allan i oriau a chymorth ac arweiniad meddygol unrhyw dro. Mae’r rhif hwn yn rhad ac am ddim i’w ffonio ac mae’n cyfuno’r gwasanaethau a gynigiwyd yn flaenorol gan Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am GIG 111 Cymru ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: https://bipbc.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd/ble-dylwn-i-fynd1/gig-111-cymru/gig-111-cymru1/
Mae GIG 111 Cymru yn rhad ac am ddim ac ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Mae’r gwasanaeth yn cynnig arweiniad a gofal brys gan gynnwys gwasanaethau Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau a chyngor iechyd. Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin am GIG 111 Cymru ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: https://bipbc.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd/ble-dylwn-i-fynd1/gig-111-cymru/gig-111-cymru1/
Os ydych yn teimlo’n sâl ond yn teimlo nad yw’n achos brys meddygol difrifol, gallwch ddefnyddio Gwiriwr Symptom Ar-lein GIG 111 Cymru. Gallwch gael mynediad at gyngor meddygol defnyddiol sy’n eich helpu i bennu’r camau’r gorau i’w cymryd. Am achos meddygol brys, ffoniwch 999. Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin am GIG 111 Cymru ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae rhagor o wybodaeth am GIG 111 Cymru ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
