Gwybodaeth

Dydd Iau 18 o Fai 2023

Bydd y feddygfa ar gau prynhawn dydd Iau 18 o Fai rhwng 1yp a 5yh ar gyfer hyfforddiant staff a bydd yn ail agor am 5yh. Os oes gennych argyfwng brys sydd yn bygwth bywyd yna rhowch y ffon i lawr a deialwch 999. Os nad yw eich galwad yn un brys ac yn gallu disgwyl nes bod y feddygfa yn ail agor gallwch ffonio yn ol bryd hynny. Os ydych yn teimlo eich bod angen siarad gyda meddyg y prynhawn yma yna cysylltwch ar 0300 0844 000. Diolch

Sut i Gofrestru

NODWCH OS GWELWCH YN DDA – ‘RYDYM YN GOFYN I BOB CLAF SYDD YN MYNYCHU’R FEDDYGFA WISIO MASG AR EICH GWYNEB OS Y MYNECH, RYDYM HEFYD YN DEFNYDDIO CCTV WRTH DRWS Y FEDDYGFA AC YN Y DDERBYNFA.

Sicrhewch eich bod yn dod â’ch un eich hun gyda chi i’ch apwyntiad. Mae masg sydd wedi ei wneud yn eich cartref yn dderbyniol, ond os nad oes gennych un mae un tafladwy ar gael yn y Feddygfa. Diolch yn fawr.

Os ydych yn byw yn ardal y Feddygfa ac yn dymuno cofrestru gyda ni, yna cwblhewch un o’r ffurflenni cofrestru sydd ar gael yn y dderbynfa os gwelwch yn dda. Gallwch nodi ar y ffurflen pa feddyg fyddai orau gennych ei weld, fodd bynnag mae gan bob un o’n cleifion Feddyg Teulu penodol. Yna, bydd y croesawydd yn gofyn i chi drefnu apwyntiad i weld Nyrs y Feddygfa ar gyfer archwiliad iechyd sylfaenol. Mae’r ymgynghoriadau fesul apwyntiad.

Ardal ymarfer

Mynediad Hygyrch

Mae’r Feddygfa gyda mynediad hygyrch er hwylystod cleifion mewn cadair olwyn a chyfarpar galw gweledol ac offer gwrando gogyfer a chleifion trwm eu clyw.

Amseroedd Y Feddygfa

Apwyntiadau 15 munud ar y ffon neu  wyneb yn wyneb

Dydd Llun 9 – 12.20yb; 2 – 5yp

Dydd Mawrth 9 – 12.20yb; 2 – 5yp

Dydd Mercher 9 – 12.20yb; 2 – 5yp

Dydd Iau 9 – 12.20yb; 2 – 5yp

Dydd Gwener 9 – 12.20yb; 2 – 5yp

Sut i Wneud Apwyntiad

Gallwch wneud apwyntiad yn y Feddygfa dros y ffon neu ar y rhyngrwyd gyda chyfrif Fy Iechyd Ar-Lein.  Mae derbynnydd ar gael o 08.00yb i 6.30 yp bob diwrnod gwaith i helpu.  Os ydych chi’n galw am apwyntiad mae staff y dderbynfa wedi’u hyfforddi i ofyn i chi am syniad byr o pam y gallai fod angen apwyntiad arnoch. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cael eich gweld gyda’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol.

NODWCH WRTH ARCHEBU APWYNTIAD FFÔN RYDYM YN GOFYN I CHI SICRHAU BOD CHWI AR GAEL I ATEB Y FFÔN. 

BYDD Y CLINIGWYR YN CEISIO CYSYLLTU Â CHI DDWY WAITH.   OS NAD YDYCH YN ATEB AC YN DAL ANGEN CYMORTH BYDD ANGEN I CHI AIL-WNEUD APWYNTIAD ARFEROL ARALL

Ym Meddygfa Caerffynnon rydym yn ffodus bod gennym lawer o fathau o glinigwyr a all helpu gyda’ch anghenion iechyd. Nid yn unig Meddygon Teulu, ond Uwch Ymarferydd Nyrsio, Nyrsus y Feddygfa ac Ffisiotherapydd sydd i gyd yn gymwys i ragnodi ac ymdrin eang o broblemau, gallant hefyd eich atgyfeirio at wasanaethau gofal eilaidd hefyd.  Drwy weld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gallwn weld mwy o gleifion yn briodol a defnyddio ein hadnoddau clinigol i’w datblygu orau ac yn y pen draw gwelwn fwy o gleifion.

Gofynnwch i dîm y dderbynfa am wybodaeth am sut i gael mynediad at Fy Iechyd Ar-Lein. Bydd apwyntiadau Nyrsio a’r Gofal Iechyd sydd ar gael ar Fy Iechyd Ar-lein yn benodol i rai gweithdrefnau, hynny yw pigiadau Atal Cenhedlu a Hydroxycobalamin, a prawf Gwddf y Groth.  Yn anffodus ni  fydd cleifion sydd wedi’i gwneud yr  apwyntiad hwn ar gyfer profion eraill  yn cael eu gweld, a bydd yn rhaid iddynt ail gysyllty ar Feddygfa.

FE ALL POB GALWAD GAEL  EI RECORDIO I SICRHAU DIOGELWCH AC ANSAWDD.

Os byddwch yn teimlo eich bod angen gweld y meddyg yr un diwrnod neu angen ymweliad a’r cartref

Ceisiwch ffonio rhwng 8 ac 11 y bore. Am apwyntiadau arferol ceisiwch ffonio ar ol 11 y bore. Os y gallwch ymweld ar Feddygfa mae yn well,  gan fod y cyfleusterau ar gyfer triniaeth yn well na gartref.

Ein polisi yw yr ymgynghorir â phob plentyn dan 16 oed sy’n cyflwyno cyflwyniad acíwt ar yr un diwrnod, boed hynny dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Galwadau ffon

Os ydych yn ei chael yn anodd i fynychu y Feddygfa neu byddai yn well gennych siarad ar meddyg dros y ffon gall ein derbynnydd drefnu ichi gael apwyntiad ffon ar amser wedi drefnu ymlaen llaw i drafod eich gofal a’ch canlyniadau ymhellach.  Mae’r meddygon teulu wedi gofyn i’n tim ofyn pam rydych chi’n ein ffonio ni heddiw.  Bydd hyn yn ein helpu ni i sicrhau bod y person cywir yn eich gweld chi.  Efallai nad Meddyg teulu fydd yn eich gweld chi bob amser.  Does dim rhaid i chi rhoi’r gwybodaeth, ond byddai’n eich helpu chi a cleifion eraill i gael eich gweld yn gyflymach a chael y gofal cywir pan fyddwch chi ei angen.

FE ALL POB GALWAD  GAEL EI RECORDIO I SICRHAU DIOGELWCH AC ANSAWDD.

Tu allan i Oriau – nawr yn 111 ers 22 o Fehefin 2021

Ar ddyddiau’r wythnos, rhwng 18:30yh ac 08:00yb, penwythnosau a gwyliau cyhoeddus darperir gofal meddygol brys gan wasanaeth allan o oriau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 111

Ail Ddarnodi

Darnodir yn gwbwl gyfrifiadurol. Mae ochr dde eich prescripsiwn yn arddangos yr unig eitemau sydd wedi cael eu darnodi ichi. Y papur hwn sydd raid ei gyflwyno pan fydd angen yr eitemau hyn. Gallwch hefyd wneud cais am eich prescripsiwn dros y rhyngrwyd. Nodwch nad ydym yn derbyn ceisiadau ffôn am feddyginiaeth.  Gofynnwch i dîm y dderbynfa am wybodaeth sut i gael mynediad at Fy Iechyd Ar-Lein.

GOFYNIR I CHWI AROS AM 48 AWR CYN CASGLU OS GWELWCH YN DDA

Canlyniadau Profion

Ffoniwch y Feddygfa rhwng 2 a 4 y prynhawn pan fydd ein llinellau ffon yn dawelach, fe allwch hefydd dderbyn canlyniadau profion drwy e-bost os ydych wedi rhoi caniatâd mewn llythyr i ni. Holwch  tîm y dderbynfa am fwy o fanylion am y gwasanaeth hwn.

Cyfrinachedd a datgelu gwybodaeth y claf

Rydym yn parchu eich hawl i breifatrwydd ac yn cadw with holl hysbysrwydd iechyd yn hollol gyfrinachol a diogel. Mae y wybodaeth yma ar gael ir rhai sydd yn gyfrifol am eich gofal yn unig ac ni chaiff ei ddatgelu i unrhyw asiant arall heb eich caniatad.

Mae yn briodol i chwi dderbyn pob gwybodaeth a gedwir gennym amdanoch, ac os yr hoffech weld eich cofnodion cysylltwch ar dderbynfa os gwelwch yn dda.

Myfyrwyr Meddygol

Mae myfyrwyr o’r Ysgol Feddygol Genedlaethol Gymreig yn cael eu hyfforddi yn y Feddygfa o bryd i’w gilydd. Maent yn gweithio dan arolygaeth fanwl, a caiff y cleifion ddewis os ydynt am gael eu gweld gan y myfyrwyr. Cefnogwch feddygon y dyfodol au cynorthwyo i ddysgu os gwelwch yn dda.

O 26 Medi 2022 byddwn yn croesawu Myfyrwyr Meddygol sydd ar fin cwblhau eu cwrs iddynt dderbyn profiad o waith Meddygon teulu. Efallai y gwnaiff ein derbynnydd ofyn ichi siarad a Myfyriwr, neu am ganiatad i Fyfyriwr fod yn bresennol yn eich ymgynghoriad a’r Meddyg. Bydd y Myfyriwr yn rhwymedig i gyfrinaichedd. Fe fydd eich cydweithrediad o fudd i hyfforddiant Meddygon teulu yn y dyfodol.

Lluoedd Arfog

Gadewch i ni wybod os ydych yn bresennol, neu wedi gwasanaethu, fel aelod o’r Lluoedd Arfog.

Croeso i Meddygfa Caerffynnon Dolgellau

 

I fynedu ein gwefan Saesneg cliciwch ar y botwm isod

 

Welcome to Dolgellau Surgery

 

This is the Welsh Language site. To access the English site, please click below.

 

English