Hysbysiad Preifatrwydd (Cleifion a Gofalwyr)

Rydym yn Bractis Meddyg Teulu sy’n gweithio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym yn rhoi gwasanaeth i boblogaeth o 4724 o gleifion ac yn cyflogi nifer o staff yn cynnwys Meddygon Teulu, nyrsys, cynorthwywyr gofal iechyd a staff gweinyddol. Mae Practis Caerffynnon yn anelu at sicrhau gofal meddygol o’r safon uchaf i’n cleifion. Er mwyn gwneud hyn rydym yn cadw cofnodion amdanoch, eich iechyd a’r gofal rydym wedi’i roi neu’n dymuno ei roi i chi. Pam rhoi rhybudd preifatrwydd?

Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Meddygfa Caerffynnon yn defnyddio’ch data personol.

Meddygfa Caerffynnon yw’r rheolydd ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu.  Mae’r practis wedi ymrwymo i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol ac i barchu eich preifatrwydd.  Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i esbonio sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch fel claf cofrestredig yn y practis.

Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu amdanoch?

Byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch ac mewn perthynas â’ch iechyd a’r gwasanaethau gofal iechyd rydych wedi’u derbyn.  Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol fel eich rhif GIG, enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, dyddiad geni a pherthynas agosaf. 

Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth bersonol sensitif amdanoch (sef ‘data categori arbennig’) sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â’ch iechyd (apwyntiadau, ymweliadau, gwybodaeth am driniaethau, canlyniadau profion, pelydrau-X neu adroddiadau), yn ogystal â gwybodaeth yn ymwneud â’ch cyfeiriadedd rhywiol, hil neu grefydd. 

Mae’r holl wybodaeth rydym yn ei chasglu ac yn ei chadw amdanoch yn rhan o’ch cofnod meddygol ac fe’i cedwir yn bennaf i sicrhau eich bod yn derbyn y driniaeth a’r gofal gorau posibl. 

Yn ogystal, efallai y byddwn yn tynnu llun ohonoch ar deledu cylch cyfyng y feddygfa pan fyddwch yn mynd i safle’r practis.

 Sut mae’ch data personol yn cael eu casglu?

Caiff yr wybodaeth a gadwn ei chasglu trwy lwybrau amrywiol. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Rhyngweithio uniongyrchol â chi fel ein claf pan fyddwch yn cofrestru â ni am ofal a thriniaeth, yn ystod ymgynghoriadau â staff y practis ac wrth i chi danysgrifio i wasanaethau, er enghraifft, cylchlythyrau, negeseuon testun, recordiadau ffôn neu greu cyfrif ar gyfer gwasanaethau ar-lein.
  • Yn anuniongyrchol o ddarparwyr gofal iechyd eraill.  Pan fyddwch yn mynd i sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, er enghraifft, apwyntiadau meddyg teulu y tu allan i oriau neu ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys a rhyngweithio â Gofal Cymdeithasol, byddant yn rhoi gwybod i ni fel bod eich cofnod meddyg teulu yn cael ei gadw’n gyfredol.
  • Trwy ddyfeisiau monitro y gellir eu gwisgo fel monitorau pwysedd gwaed
  • Pan gaiff eich llun ei dynnu ar deledu cylch cyfyng eich practis
  • Technolegau wedi’u hawtomeiddio. Er enghraifft, pan fyddwch yn rhyngweithio â’n gwefan, efallai y byddwn yn casglu data’n awtomatig am eich offer, eich gweithredoedd ac arferion/patrymau o ran pori.  Cesglir hyn trwy ddefnyddio cwcis. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Polisi Cwcis LINK

Sut ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth?

Caiff yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch ei defnyddio’n bennaf ar gyfer eich gofal a’ch triniaeth uniongyrchol, ond gellid ei defnyddio hefyd at y dibenion canlynol:

  • Rheoli gwasanaethau gofal iechyd
  • Cyfranogiad mewn Rhaglenni Sgrinio Cenedlaethol
  • Gofynion Casglu Data Cenedlaethol
  • Ymchwil feddygol ac archwilio clinigol
  • Gofynion cyfreithiol
  • Diogelwch ein staff a’n safle

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw drydydd partïon at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Partneriaid y gallem rannu eich gwybodaeth â hwy

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth, yn amodol ar gytundeb ynghylch sut y caiff ei defnyddio â’r sefydliadau canlynol:

  • Ymddiriedolaethau’r GIG / Ymddiriedolaeth Sefydledig / Byrddau Iechyd
  • Meddygon teulu eraill, fel y rhai mewn practisiau meddygon teulu sy’n rhan o glwstwr
  • Darparwyr y tu allan i oriau
  • Canolfannau diagnosteg neu driniaeth
  • Contractwyr annibynnol fel deintyddion, optegwyr neu fferyllwyr
  • Darparwyr sector preifat
  • Ymddiriedolaethau Ambiwlans
  • Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg
  • Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Y Bartneriaeth Gwella Ansawdd Gofal Iechyd
  • Awdurdodau Lleol
  • Gwasanaethau Addysg
  • Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Yr Heddlu a Gwasanaethau Barnwrol
  • Darparwyr sector gwirfoddol

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio cwmnïoedd trydydd parti allanol (proseswyr data) i brosesu eich gwybodaeth bersonol. Bydd y cwmnïoedd hyn wedi’u rhwymo gan gytundebau dan gontract i sicrhau y caiff yr wybodaeth ei chadw’n gyfrinachol ac yn ddiogel.  Mae hyn yn golygu na allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny.  Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni.  Byddant yn storio’r wybodaeth yn ddiogel ac yn ei chadw am y cyfnod y byddwn yn eu cyfarwyddo i wneud hynny. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Bydd y practis yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth dim ond pan fydd sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny. Mae rhestr lawn o sut y gellir defnyddio a rhannu eich data i’w gweld S:\PRACTICE on emis\Administration & clerical\Caerffynnon Policies\How We Use Your Data Bilingual Document.docx

Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Meddygfa Caerffynnon yn defnyddio’ch data personol.

Text Box: Meddygfa Caerffynnon yw’r rheolydd ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu.  Mae’r practis wedi ymrwymo i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol ac i barchu eich preifatrwydd.  Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i esbonio sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch fel claf cofrestredig yn y practis.

 Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu amdanoch?

Byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch ac mewn perthynas â’ch iechyd a’r gwasanaethau gofal iechyd rydych wedi’u derbyn.  Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol fel eich rhif GIG, enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, dyddiad geni a pherthynas agosaf. 

Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth bersonol sensitif amdanoch (sef ‘data categori arbennig’) sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â’ch iechyd (apwyntiadau, ymweliadau, gwybodaeth am driniaethau, canlyniadau profion, pelydrau-X neu adroddiadau), yn ogystal â gwybodaeth yn ymwneud â’ch cyfeiriadedd rhywiol, hil neu grefydd. 

Mae’r holl wybodaeth rydym yn ei chasglu ac yn ei chadw amdanoch yn rhan o’ch cofnod meddygol ac fe’i cedwir yn bennaf i sicrhau eich bod yn derbyn y driniaeth a’r gofal gorau posibl. 

Yn ogystal, efallai y byddwn yn tynnu llun ohonoch ar deledu cylch cyfyng y feddygfa pan fyddwch yn mynd i safle’r practis.

 Sut mae’ch data personol yn cael eu casglu?

Caiff yr wybodaeth a gadwn ei chasglu trwy lwybrau amrywiol. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Rhyngweithio uniongyrchol â chi fel ein claf pan fyddwch yn cofrestru â ni am ofal a thriniaeth, yn ystod ymgynghoriadau â staff y practis ac wrth i chi danysgrifio i wasanaethau, er enghraifft, cylchlythyrau, negeseuon testun, recordiadau ffôn neu greu cyfrif ar gyfer gwasanaethau ar-lein.
  • Yn anuniongyrchol o ddarparwyr gofal iechyd eraill.  Pan fyddwch yn mynd i sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, er enghraifft, apwyntiadau meddyg teulu y tu allan i oriau neu ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys a rhyngweithio â Gofal Cymdeithasol, byddant yn rhoi gwybod i ni fel bod eich cofnod meddyg teulu yn cael ei gadw’n gyfredol.
  • Trwy ddyfeisiau monitro y gellir eu gwisgo fel monitorau pwysedd gwaed
  • Pan gaiff eich llun ei dynnu ar deledu cylch cyfyng eich practis
  • Technolegau wedi’u hawtomeiddio. Er enghraifft, pan fyddwch yn rhyngweithio â’n gwefan, efallai y byddwn yn casglu data’n awtomatig am eich offer, eich gweithredoedd ac arferion/patrymau o ran pori.  Cesglir hyn trwy ddefnyddio cwcis. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Polisi Cwcis LINK

Sut ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth?

Caiff yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch ei defnyddio’n bennaf ar gyfer eich gofal a’ch triniaeth uniongyrchol, ond gellid ei defnyddio hefyd at y dibenion canlynol:

  • Rheoli gwasanaethau gofal iechyd
  • Cyfranogiad mewn Rhaglenni Sgrinio Cenedlaethol
  • Gofynion Casglu Data Cenedlaethol
  • Ymchwil feddygol ac archwilio clinigol
  • Gofynion cyfreithiol
  • Diogelwch ein staff a’n safle

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw drydydd partïon at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Partneriaid y gallem rannu eich gwybodaeth â hwy

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth, yn amodol ar gytundeb ynghylch sut y caiff ei defnyddio â’r sefydliadau canlynol:

  • Ymddiriedolaethau’r GIG / Ymddiriedolaeth Sefydledig / Byrddau Iechyd
  • Meddygon teulu eraill, fel y rhai mewn practisiau meddygon teulu sy’n rhan o glwstwr
  • Darparwyr y tu allan i oriau
  • Canolfannau diagnosteg neu driniaeth
  • Contractwyr annibynnol fel deintyddion, optegwyr neu fferyllwyr
  • Darparwyr sector preifat
  • Ymddiriedolaethau Ambiwlans
  • Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg
  • Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Y Bartneriaeth Gwella Ansawdd Gofal Iechyd
  • Awdurdodau Lleol
  • Gwasanaethau Addysg
  • Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Yr Heddlu a Gwasanaethau Barnwrol
  • Darparwyr sector gwirfoddol

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio cwmnïoedd trydydd parti allanol (proseswyr data) i brosesu eich gwybodaeth bersonol. Bydd y cwmnïoedd hyn wedi’u rhwymo gan gytundebau dan gontract i sicrhau y caiff yr wybodaeth ei chadw’n gyfrinachol ac yn ddiogel.  Mae hyn yn golygu na allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny.  Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni.  Byddant yn storio’r wybodaeth yn ddiogel ac yn ei chadw am y cyfnod y byddwn yn eu cyfarwyddo i wneud hynny. 

Text Box: Bydd y practis yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth dim ond pan fydd sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny.
Mae rhestr lawn o sut y gellir defnyddio a rhannu eich data i'w gweld S:\PRACTICE on emis\Administration & clerical\Caerffynnon Policies\How We Use Your Data Bilingual Document.docxLINK 
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Mae’r seiliau cyfreithiol ar gyfer y rhan fwyaf o’n prosesu yn ymwneud â’ch gofal a’ch triniaeth uniongyrchol:

  • Erthygl 6(1)(e) – Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a weithredir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir yn y rheolwr;

Lle mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol benodol sy’n mynnu prosesu data personol, dyma’r sail gyfreithiol:

  • Erthygl 6(1)(c) – Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolwr yn ddarostyngedig iddi.

Lle rydym yn prosesu data categori arbennig, er enghraifft, data yn ymwneud ag iechyd, tarddiad ethnig neu hil neu gyfeiriadedd rhywiol, mae angen i ni fodloni amod ychwanegol o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.  Lle rydym yn prosesu data personol categori arbennig at ddibenion yn ymwneud â chomisiynu a darparu gwasanaethau iechyd, dyma’r amod:

  • Erthygl 9(2)(h) – Mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu gallu’r gweithiwr i weithio, diagnosis meddygol, darparu iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol; neu
  • Erthygl 9(2)(i) – Mae prosesu yn angenrheidiol am resymau lles y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd, fel amddiffyn rhag bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd neu sicrhau safonau uchel o ansawdd a diogelwch gofal iechyd ac o gynhyrchion meddyginiaethol neu ddyfeisiau meddygol.

Efallai y bydd y practis yn prosesu eich data personol at ddibenion ymchwil. Mewn amgylchiadau o’r fath, dyma ein sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny:

  • Erthygl 6 (1)(e) – Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a weithredir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir yn y rheolwr;

Lle rydym yn prosesu data personol categori arbennig at ddibenion ymchwil, dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hyn:

  • Erthygl 9 (2)(a) – Rydych wedi rhoi eich cydsyniad penodol
  • Erthygl 9(2)(j) – Mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu at ddibenion ystadegol.

Efallai y bydd y practis hefyd yn prosesu data personol at ddibenion neu mewn cysylltiad ag achosion cyfreithiol (gan gynnwys achosion cyfreithiol arfaethedig), at ddibenion cael cyngor cyfreithiol, neu at ddibenion sefydlu, practis neu amddiffyn hawliau cyfreithiol.  Lle rydym yn prosesu data personol at y dibenion hyn, dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hyn:

  • Erthygl 6(1)(e) – Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a weithredir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir yn y rheolwr; neu
  • Erthygl 6(1)(c) – Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolwr yn ddarostyngedig iddi; neu
  • Erthygl 6(1)(f) – Mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion y buddion cyfreithlon y mae’r rheolydd yn eu dilyn.

Lle rydym yn prosesu categori arbennig o ddata personol at y dibenion hyn, dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hyn:

  • Erthygl 6(2)(f) – Mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer sefydlu, practis neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu
  • Erthygl 9(2)(g) – Mae prosesu yn angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.

Mewn amgylchiadau prin, efallai y bydd angen i ni rannu gwybodaeth ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith neu amddiffyn llesiant pobl eraill. Er enghraifft, diogelu plant neu oedolion sy’n agored i niwed. Mewn amgylchiadau o’r fath, dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer rhannu gwybodaeth:

  • Erthygl 6(1)(c) – Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolwr yn ddarostyngedig iddi; neu
  • Erthygl 6(1)(d) – Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn diddordeb hanfodol testun y data neu berson naturiol arall; neu
  • Erthygl 6(1)(e) – Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a weithredir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir yn y rheolwr;

Lle rydym yn rhannu categorïau arbennig o ddata personol at ddibenion diogelu, dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hyn:

  • Erthygl 9(2)(g) – Mae prosesu yn angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol; Deddf Diogelu Data 2018 S10 ac Atodlen 1, Paragraff 18 ‘Diogelu plant ac unigolion mewn perygl’

Cadw’ch Gwybodaeth Bersonol / Storio’ch Gwybodaeth

Mae’n ofynnol arnom yn unol â chyfraith y DU i gadw’ch gwybodaeth a’ch data am gyfnod penodedig, y cyfeirir ato’n aml fel y cyfnod cadw.  Bydd y practis yn cadw’ch gwybodaeth yn unol â pholisi rheoli cofnodion y practis, y gellir dod o hyd iddo LINK

Sut i Gysylltu â Ni

Cysylltwch â’r practis os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hysbysiad preifatrwydd neu am yr wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch, cysylltwch a Sarah Tibbetts, Rheolwraig y Feddygfa neu Nicola Marsh, Dirprwyf Rheolwraig y Feddygfa, Meddygfa Caerffynnon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1LY

Manylion Cyswllt ein Swyddog Diogelu Data

Mae’n ofynnol ar y practis i benodi Swyddog Diogelu Data.  Mae hon yn rôl hanfodol wrth hwyluso atebolrwydd y practis a chydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

Ein Swyddog Diogelu Data yw:

Iechyd a Gofal Digidol Cymru,
Llywodraethu Gwybodaeth, Gwasanaeth Cymorth y Swyddog Diogelu Data
4ydd Llawr, Tŷ Glan-yr-Afon
21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
Caerdydd
CF11 9AD
E-bost: [email protected]

Eich Hawliau

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn cynnwys nifer o hawliau.  Yn gyffredinol, rhaid i ni ymateb i geisiadau mewn perthynas â’r hawliau o fewn un mis, er bod rhai eithriadau i hyn.

Mae argaeledd rhai o’r hawliau hyn yn dibynnu ar y sail gyfreithiol sy’n berthnasol mewn perthynas â phrosesu eich data personol, ac mae rhai amgylchiadau eraill lle na fyddwn yn cadarnhau cais i practis hawl.  Mae eich hawliau a sut maent yn berthnasol wedi’u disgrifio isod.

Yr hawl i gael gwybod

Mae eich hawl i gael gwybod wedi’i bodloni gan ddarpariaeth yr hysbysiad preifatrwydd hwn, yn ogystal â gwybodaeth debyg pan fyddwn yn cyfathrebu â chi’n uniongyrchol – ar y pwynt cyswllt.

Yr hawl i gael mynediad

Mae gennych yr hawl i gael copi o ddata personol rydym yn eu cadw amdanoch chi, yn ogystal â darnau eraill o wybodaeth a nodir yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, er bod rhai eithriadau i’r hyn y mae’n ofynnol i ni ei ddatgelu.

Sefyllfa lle na allwn ddarparu’r holl wybodaeth yw lle y byddai datgelu, ym marn gweithiwr iechyd proffesiynol priodol, yn debygol o achosi niwed difrifol i’ch iechyd corfforol neu feddyliol, neu iechyd corfforol neu feddyliol rhywun arall.

Yr hawl i gywiro

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata anghywir sydd gennym amdanoch.

Yr hawl i gael gwared ar ddata (‘yr hawl i’r data gael eu hanghofio’)

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gael gwared ar ddata personol sydd gennym amdanoch. Nid yw hon yn hawl absoliwt ac, yn dibynnu ar y sail gyfreithiol sy’n berthnasol, efallai y bydd gennym seiliau cyfreithiol pwysicach i barhau i brosesu’r data.

Yr hawl i Gyfyngu ar Brosesu

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu prosesu data personol sydd gennym amdanoch. Gallwch ofyn i ni wneud hyn, er enghraifft, lle rydych yn dadlau pa mor gywir yw’r data.

Yr hawl i gludadwyedd data

Mae’r hawl hon ar gael dim ond pan mai cydsyniad yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, neu at ddibenion contract rhyngoch chi a’r practis. Er mwyn i hyn fod yn berthnasol, rhaid i’r data gael eu cadw ar ffurf electronig. Yr hawl yw derbyn y data mewn fformat electronig a ddefnyddir yn gyffredin.

Yr hawl i wrthwynebu

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu data personol amdanoch ar seiliau yn ymwneud â’ch sefyllfa benodol. Nid yw’r hawl yn absoliwt, ac efallai y byddwn yn parhau i ddefnyddio’r data os gallwn ddangos seiliau cyfreithiol cadarn, oni bai bod eich gwrthwynebiad yn ymwneud â marchnata.

Hawliau yn ymwneud â gwneud penderfyniadau unigol awtomatig, gan gynnwys proffilio

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu bod yn destun penderfyniad yn seiliedig ar brosesu awtomatig yn unig, gan gynnwys proffilio.  Os byddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau awtomatig, byddwn yn cofnodi hyn yn ein hysbysiad preifatrwydd ac yn sicrhau eich bod yn cael y cyfle i ofyn bod y penderfyniad yn ymwneud ag ystyriaeth bersonol.

Yr hawl i gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth

Mae gennych yr hawl i gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn hapus ag unrhyw agwedd ar weithdrefnau prosesu data personol y practis, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’n cyfrifoldebau fel rheolydd data. Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane,
Wilmslow, SK9 5AF

Gwefan: www.ico.org.uk

Ffôn: 0303 123 1113

Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: Rheolwr y Practis, Sarah Tibbetts, Meddygfa Caerffynnon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1LY Ffôn: 01341 422 431

Newidiadau i’r Rhybudd Preifatrwydd hwn Rydym yn adolygu ein Rhybudd Preifatrwydd yn rheolaidd. Bydd y Rhybudd Preifatrwydd hwn yn cael ei adolygu nesaf ym mis Gorffennaf 2023.

Croeso i Meddygfa Caerffynnon Dolgellau

 

I fynedu ein gwefan Saesneg cliciwch ar y botwm isod

 

Welcome to Dolgellau Surgery

 

This is the Welsh Language site. To access the English site, please click below.

 

English