PRYNHAWN HYFFORDDIANT DYDD IAU 30 FAWRTH 2023
Bydd y Feddygfa ar gau Dydd Iau, 30 o Fawrth rhwng 1yp a 5yh ar gyfer hyfforddiant staff a bydd yn ail agor am 5yh. Os oes gennych argyfwng brys sydd yn bygwth bywyd rhwng 1 a 5 deialwch 999. Os nad yw eich galwad yn un brys ac yn gallu disgwyl nes bod y feddygfa yn ail agor gallwch ffonio yn ol bryd hynny. Os ydych yn teimlo eich bod angen siarad gyda meddyg ar y prynhawn yna cysylltwch ar 0300 0844 000. Diolch yn fawr.
NODWCH OS GWELWCH YN DDA – ‘RYDYM YN GOFYN I’N CLEIFION SYDD YN MYNYCHU’R FEDDYGFA I WISIO MASG AR EICH GWYNEB OS Y MYNECH.
Brechiad Covid Hydref a Clinic Blynyddol Brechu Ffliw 2022/2023
Cynhaliodd y Feddygfa ein clinigau atgyfnerthu yng Nghanolfan Hamdden, Glan Wnion, Dolgellau rhwng dydd Gwener 7fed Hydref a 25 Tachwedd 2022. Os wnaethoch golli eich apwyntiad ac yn dymuno cael brechlyn, cysylltwch a’r bwrdd iechyd ar 03000 840004, mae’r llinellau ar agor rhwng 08:00yb – 18:00yh, dydd Llun i ddydd Gwener ac 09:00yb – 13:00yp dydd Sadwrn a Sul.
BRECHIADAU FFLIW
Gall y ffliw fod yn salwch difrifol iawn, yn enwedig os ydych yn dioddef o gyflwr meddygol fel Fogfa, clefyd melys, y galon, arennau, yn feichiog, afu? neu Imiwnedd isel? Mae brechlyn ar gael hefyd os ydych yn Ofalwr?
Mae gennym nifer cyfyngedig o frechlynnau felly os rydych dros 50 ac nad ydych wedi cael eich brechlyn eto, cysylltwch cyn gynted ac sy’n bosib i wneud apwyntiad ar 01341 422 431
Os gwelwch yn dda er eich diolgelwch a’r rhai o’ch cwmpas, gwisgwch fwgwd i’r clinic. Diolch.
Archwiliad Meddygol “MOT”
Bydd y tim nyrsio yn cynnig archwiliad rheolaidd ar bwysedd gwaed, profion dwr, pwysau gan roi cyngor ar golli pwysau, rhoi’r gorau i ysmygu a cham ddefnyddio alcohol.
- Fe gynigir profion iriad gwddf y groth ac archwiliad y fron gan Nyrs y Practis bob tair blynedd.
- Mae ymwybyddiaeth cynyddol o bwysigrwydd ymchwiliad rheolaidd i broblemau testicl a prostrad i ddynion.
- Gall cleifion cofrestredig 16 – 74 na welwyd am 3 blynedd ofyn am ymgynghoriad.
Clefydau Parhaol – Clefyd siwgwr, Asma, pwysedd gwaed uchel
Bydd gofyn i chwi fod yn bresennol mewn clinigau penodol yn rheolaidd os ydych yn dioddef o glefyd parhaol.
Atal Cenhedlu
Cynigir rhestr o ddulliau atal cenhedlu gan y Practis.
Clinigau Cyn-Enedigol
Cynigir y gofal uchod gan bob un o’r meddygon mewn cydweithrediad a bydwragedd o’r Uned Famolaeth.
Iechyd Plant Ac Imiwneiddio
Mae clinig yn cael ei gynnal gan Dr Edwards, Dr Butcher ac Nyrs y Practis yn y Feddygfa yn wythnosol oni nodir yn wahanol.
Imiwneiddio Cyn Teithio
Rydym yn defnyddio gwybodaeth mwyaf diweddar ar y cyfrifiadur gan Ysgol Feddygol Trofannol Llundain.
eConsult
Mi rydym yn hapus i gyflwyno gwasanaeth newydd yn y Feddygfa i’n cleifion, sef eConsult. Ydych chi’n teimlo’n sâl, neu oes gennych chi gais ar gyfer y Feddygfa? Cychwynnwch eConsult ar-lein yn rhad ac am ddim ar patients.econsult.health neu ar ein wefan www.dolgellaudoctors.org. Dewiswch yr adran sy’n berthnasol i’ch cais. Cyflwynwch eConsult i’r Feddygfa.
‘Rydym ym arolygu pob eConsult a gyflwynir i’r Feddygfa, ac os bydd angen apwyntiad arnoch ar ôl eich ymgynghoriad byd…dwn yn gofyn i chi gysylltu â’r practis i drefnu un, i ymateb gyda chyngor neu bresgripsiwn.
YN ANFFODUS NI YW’R GWASANAETH eCONSULT AR GAEL DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Man Lawfeddygaeth
Mae Dr Edwards a Dr Butcher yn barod i gynnig man lawfeddygaeth.