Helpwch ni I’ch Helpu Chi

Hawliau cleifion i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol

  • Cofrestru gyda Meddyg Teulu
  • Newid meddyg os dymunir
  • Cael cynnig archwiliad iechyd wrth ymuno ar Feddygfa
  • Derbyn gofal brys ar unrhyw amser gan y feddygfa
  • Derbyn cyffuriau a meddyginiaethau perthnasol
  • Cael eich atgyfeirio i arbenigydd neu ail farn os cytynir gyda’r meddyg teulu
  • Hawl gweld cofnodion meddygol, yn amodol ar y Deddfau a gwybod ei bod yn ofynnol i’r sawl sy’n gweithio i’r GIG gynnal cyfrinachedd yn unol a gofynion cyfrinachedd

Helpwch y meddygon i’ch helpu chi trwy ddilyn y canllawiau canlynol:

  • Trin staff gyda chwrteisi bob amser
  • Cyrraedd yn brydlon ar gyfer apwyntiad
  • Ein hysbysu gynted a phosibl os na fyddwch yn gallu cadw neu dim angen apwyntiad mwyach. Gellir llenwi eich slot hyd yn oed ar fyr rybudd.
  • Mae’r meddygon yn parchu eich amser a cheisir peidio eich cadw’n aros yn rhy hir. Gobeithio y byddwch yn deall y gall rhai ymgynghoriadau gymryd mwy nag eraill. Hefyd, mae argyfwng yn codi’n achlysurol fydd angen blaenoriaeth efallai. Gobeithio y byddwch yn deall os achosir unrhyw anhwylustod i chi
  • Hysbyswch y feddygfa os bydd eich cyfeiriad neu amglychiadau personol yn newid

Ymddygiad Ymosodol

Nid yw’r feddygfa hon yn derbyn unrhyw ymddygiad ymosodol, ar lafar na chorfforol tuag at unrhyw aelod o staff. Cofiwch eu bod nhw yma i’ch helpu chi. Y cyfan a ofynir yw bod cleifion yn ymddwyn yn rhesymol ac yn trin staff gyda pharch. Gall camymddwyn difrifol neu barhaus arwain at dynnu’r claf oddi ar restr y Feddygfa.

Rhoi Cymorth I Ni Roi Cymorth I Chi

Rydym yn ceisio darparu’r gwasanaeth a’r gofal gorau bosibl i’n cleifion ac i’r gymuned. Fodd bynnag, o dro i dro, mae camgymeriadau neu gamddealltwriaeth yn digwydd. Rydym yn croesawu’r cyfle cyntaf posib i drafod eich cwynion neu awgrymiadau. Gofynnwch i gael sgwrs gyda Rheolwraig y Practis, Mrs Sarah Tibbetts, neu Miss Nicola Marsh, Ysgrifennyddes ar 01341 422 431 os gwelwch yn dda.

Os oes gennych broblem ynglyn a’r gwasanaeth ac yn methu ei drafod gyda ni, gallwch gysylltu a’r Cyngor Iechyd cymunedol lleol neu’r awrdurdod Gwasanaeth Iechyd Teuluol Gwynedd fydd yn gallu cynnig cymorth a chyngor.

Eiriolydd Cwynion
Cyngor Iechyd Cymuned
11 Llys Castan
Ffordd yr Parc
Parc Menai
Bangor    LL57 4FH

01248 679284

Y Tim Pryderon
Ysbyty Gwynedd
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd  LL57 2PW
01248 384194

RHOWCH GYMORTH I NI GADW COFNODION CYFREDOL DRWY EIN HYSBYSU AM UNRHYW NEWIDIADAU

Croeso i Meddygfa Caerffynnon Dolgellau

 

I fynedu ein gwefan Saesneg cliciwch ar y botwm isod

 

Welcome to Dolgellau Surgery

 

This is the Welsh Language site. To access the English site, please click below.

 

English