Cefnogaeth Iechyd Meddwl.
- Ydych chi eisiau trafod eich iechyd meddwl?
- Ydych chi’n cael trafferth gyda phryder, iselder, profedigaeth, straen neu newidiadau bywyd?
- Ydych chi’n meddwl efallai fod gennych gyflyrau niwro-amrywiol (fel anhwylderau diffyg canolbwyntio (ADHD), Awtistiaeth) archwiliwch beth mae hyn yn ei olygu i chi – a sut y gallwch reoli eich nodweddion eich hun.
- Dewch i siarad â Ruth – Therapydd Galwedigaethol Iechyd Meddwl, am gefnogaeth a chyngor i’ch helpu ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen i chi. Gallwch hefyd drafod cyfeiriadau at wasanaethau eraill a chymorth cymunedol yn dibynnu ar eich anghenion.
- Gellir gwneud apwyntiadau gyda Ruth yn uniongyrchol drwy’r dderbynfa, neu unrhyw ymarferwr arall y gallech fod yn ei weld.
- Os ydych yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd gan arbenigwr gofal eilaidd fel CAMHS neu gan y Tim Iechyd Meddwl, ni all y gwasanaeth hwn eich derbyn am driniaeth, fodd bynnag gellir rhoi cyngor i chi.