Beth yw Fy Iechyd Ar-lein?
Mae Fy Iechyd Ar-lein yn wasanaeth ar-lein sydd yn cynnig cyfle i gleifion archebu eu presgripsiynau, gwneud apwyntiadau gyda’r Meddygon, a newid eu manylion cyswllt dros y we. Cyn y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn bydd rhaid i chi gael Enw Defnyddiwr a Chyfrinair. Gallwch gael y rhain gan ein Derbynyddion.
Oherwydd rheoliadau cyfrinachedd llym, gellir gwneud hyn wyneb yn wyneb yn unig. Bydd angen prawf hunaniaeth arnom hefyd. Os rydych yn cael trafferthion gyda’r gwasanaeth, cysylltwch ar Feddygfa, nodwch mewn rhai achosion mi fyddem yn awgrymu i chwi gysylltu a “[email protected]”.